SL(5)252 - Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn dirymu ac yn ail-wneud gyda diwygiadau Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008 (O.S. 2008/3154 (Cy. 282)).
Mae’r Rheoliadau hyn yn parhau i orfodi Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol (OJ Rhif L 147, 31.5.2001, t. 1) (“Rheoliad TSE yr UE”).
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu ac yn gorfodi rhwymedigaethau’r UE mewn perthynas ag iechyd anifeiliaid, ac felly bydd y Rheoliadau hyn yn ffurfio rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl y diwrnod ymadael.
Mae’r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin yn nodi bod “iechyd anifeiliaid” yn faes polisi sy’n debygol o fod yn ddarostyngedig i reoliadau cymal 11 o dan Fil yr UE (Ymadael) (rheoliadau adran 12 o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 bellach). Felly, mae’r gyfraith sy’n dod o dan y Rheoliadau hyn yn debygol o fod yn faes o gyfraith yr UE sy’n cael ei rewi tra bod fframweithiau cyffredin yn cael eu rhoi ar waith.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
19 Medi 2018